bgw. Exodus 29:40-41; Lefiticus 23:13; Numeri 15:5-10
ccyfeiriad at Salm 28:4; 62:12; 2 Samuel 3:39; Diarhebion 24:12 (gw. hefyd Mathew 16:27; Rhufeiniaid 2:6)
dadlais o Salm 22:20-21 (gw. hefyd Daniel 6:21,23)
eadlais o eiriau Iesu yng Ngweddi'r Arglwydd – Mathew 6:13

2 Timothy 4

1Y Meseia Iesu ydy'r un fydd yn barnu pawb (y rhai sy'n dal yn fyw a'r rhai sydd wedi marw). Mae e'n mynd i ddod yn ôl i deyrnasu. Felly, gyda Duw a Iesu Grist yn dystion i mi, dw i'n dy siarsio di 2i gyhoeddi neges Duw. Dal ati i wneud hynny os ydy pobl yn barod i wrando neu beidio. Rhaid i ti gywiro pobl, ceryddu weithiau, annog dro arall – a gwneud hynny gydag amynedd mawr ac yn ofalus dy fod yn ffyddlon i'r gwir. 3Mae'r amser yn dod pan fydd pobl ddim yn gallu goddef dysgeidiaeth dda. Byddan nhw'n dilyn eu chwantau eu hunain ac yn dewis pentwr o athrawon fydd ond yn dweud beth maen nhw eisiau ei glywed. 4Byddan nhw'n gwrthod beth sy'n wir ac yn dilyn straeon celwyddog. 5Ond, Timotheus, paid cynhyrfu beth bynnag sy'n digwydd. Paid bod ag ofn dioddef. Dal ati i rannu'r newyddion da gyda phobl, a gwneud y gwaith mae Duw wedi ei roi i ti.

6Dw i wedi cyrraedd pen y daith. Mae fy mywyd i fel petai wedi ei dywallt ar yr allor fel diodoffrwm.
4:6 diodoffrwm: Weithiau roedd gwin yn cael ei dywallt ar yr allor gyda'r anifail oedd yn cael ei aberthu.
b Mae'r amser i mi adael y byd yma wedi dod.
7Dw i wedi ymladd yn galed, dw i wedi rhedeg y ras i'r pen, a dw i wedi aros yn ffyddlon. 8Bellach mae'r wobr wedi ei chadw i mi, sef coron y bywyd cyfiawn. Bydd yr Arglwydd, y Barnwr cyfiawn, yn ei chyflwyno hi i mi ar y diwrnod pan ddaw yn ôl – a ddim i mi yn unig, ond i bawb sydd wedi bod yn edrych ymlaen yn frwd iddo ddod yn ôl.

Sylwadau Personol

9Gwna dy orau i ddod yma'n fuan. 10Mae Demas wedi caru pethau'r byd yma – mae e wedi fy ngadael i a mynd i Thesalonica. Mae Crescens wedi mynd i Galatia, a Titus i Dalmatia. 11Dim ond Luc sydd ar ôl. Tyrd â Marc gyda ti pan ddoi di. Mae e wedi bod yn help mawr i mi yn y gwaith. 12Dw i'n anfon Tychicus i Effesus. 13A pan ddoi di, tyrd â'r fantell adewais i yn nhŷ Carpus yn Troas. A thyrd â'r sgroliau hefyd – hynny ydy, y memrynau.

14Mae Alecsander y gweithiwr metel wedi gwneud llawer o ddrwg i mi. Ond bydd yr Arglwydd yn talu nôl iddo beth mae'n ei haeddu. c 15Gwylia dithau e! Mae e wedi gwneud popeth o fewn ei allu i wrthwynebu ein neges ni.

16Ddaeth neb i'm cefnogi i yn yr achos llys cyntaf. Roedd pawb wedi troi eu cefnau arna i. Dw i ddim am i Dduw ddal y peth yn eu herbyn nhw. 17Ond roedd yr Arglwydd gyda mi yn rhoi nerth i mi gyhoeddi'r newyddion da yn llawn, er mwyn i'r holl bobl oedd yno o genhedloedd eraill ei glywed. Ces fy achub o afael y llew am y tro! d 18A dw i'n gwybod y bydd yr Arglwydd yn fy amddiffyn i o afael pob drwg, e ac yn fy arwain yn saff i'r nefoedd ble mae e'n teyrnasu. Mae'n haeddu ei foli am byth bythoedd! Amen!

Cyfarchion i gloi

19Cofia fi at Priscila ac Acwila a phawb yn nhŷ Onesifforws. 20Mae Erastus wedi aros yn Corinth. Roedd Troffimus yn sâl, ac roedd rhaid i mi ei adael yn Miletus. 21Plîs gwna dy orau glas i ddod yma cyn i'r gaeaf gyrraedd. Mae Ewbwlos yn cofio atat ti, a hefyd Pwdens, Linus, Clawdia. Mae'r brodyr a'r chwiorydd i gyd yn cofio atat ti.

22Dw i'n gweddïo y bydd yr Arglwydd yn dy amddiffyn di, ac y byddwch chi i gyd yn profi haelioni rhyfeddol Duw!

Copyright information for CYM